Warren Gatland
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland, wedi cwestiynu doethineb clybiau Lloegr a Ffrainc wrth geisio sefydlu cystadleuaeth Ewropeaidd newydd.

Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i gynnal y Cwpan Pencampwyr Rygbi newydd o dymor nesaf ymlaen, fydd yn cymryd lle’r Cwpan Heineken presennol.

Bydd gwahoddiadau’n cael eu hestyn i glybiau o Gymru, Iwerddon a’r Alban i ymuno â’r gystadleuaeth, ond dim ond os cawn nhw ganiatâd gan eu hundebau rygbi.

Mae clybiau Lloegr a Ffrainc ar hyn o bryd yn anhapus gyda’r modd y caiff yr arian ei ddosbarthu a’r ffordd y mae timau’r gwledydd Celtaidd yn cael mynediad yn y gystadleuaeth bresennol.

Ddim am bara’n hir

Ond mae Gatland yn amau mai methiant fydd yr ymgais.

“Dwi ddim yn gweld y gystadleuaeth Eingl-Ffrengig yma’n bod yn un llwyddiannus nac yn para’n hir,” meddai Gatland wrth BBC Jersey.

“Mae’n bosib y bydd angen rhyw fath o amddiffynfa ar gyfer tîm Albanaiddd neu Eidalaidd. Hebddyn nhw bydd hynny’n cael effaith ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

“Dwi’n credu bod pawb eisiau gweld cynrychiolaeth lawn o bob gwlad.”

Pwysleisiodd Gatland hefyd y byddai’r gystadleuaeth newydd yn cael trafferthion pan fyddai’n dod at ddyfarnwyr.

“Mae’r dyfarnwyr yn cael eu rheoli gan yr undebau ac mae Ffrainc wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r gystadleuaeth, tra bod Undeb Rygbi Lloegr yn eistedd ar y ffens,” esboniodd.

Mae rhybuddion eisoes wedi bod y gall yr ansicrwydd sy’n parhau ynghylch dyfodol y gystadleuaeth gael effaith mawr ar chwaraewyr sy’n ystyried aros yng Nghymru ai peidio.