Yfory fe fydd y Gweilch yn croesawu Leinster i Stadiwm y Liberty ar gyfer eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth y Cwpan Heineken.

Mae’r Gweilch wedi enwi Ben John ar yr asgell a bydd Ryan Jones yn dychwelyd i ymuno â Justin Tipuric a Joe Bearman yn y rheng-ôl.

‘‘Rydym yn edrych ymlaen at yr her sydd o’n blaenau, boed yn chwaraewr, hyfforddwr neu gefnogwr,” meddai rheolwr y Gweilch, Steve Tandy.

“Mae’n gyfnod cyffrous adeg Cwpan Heineken.  Rydym yn ymwybodol o gryfder Leinster sy’n cynnwys nifer o chwaraewyr profiadol, mi fydd hi’n achlysur arbennig i bawb.’’

Mi fydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 2 (17:45) yfory.

Tîm y Gweilch

Olwyr – Richard Fussell, Ben John, Andrew Bishop, Ashley Beck, Eli Walker, Dan Biggar a Tito Tebaldi.

Blaenwyr – Duncan Jones, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (Capten), James King, Ryan Jones, Justin Tipuric a Joe Bearman.

Eilyddion – Scott Baldwin, Ryan Bevington, Aaron Jarvis, Tyler Ardron, Sam Lewis, Tom Habberfield, Matthew Morgan a Jeff Hassler.