Mae Sam Warburton wedi cyfaddef bod her o flaen y Gleision wrth iddyn nhw herio Caerwysg yn eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth Cwpan Heineken ddydd Su.
Nid oes un tîm o Gymru wedi ennill y Cwpan Heineken eto, ond mae Warburton yn barod am yr her sydd o flaen y Gleision.
‘‘Fe wnaethom chwarae’n dda yn erbyn Toulon y flwyddyn diwethaf… Os gallwn ni ennill y gemau cartref a llwyddo i gipio buddugoliaeth i ffwrdd o gartref byddai hynny’n arbennig,’’ meddai Warburton.
Mae rheolwr y Gleision, Phil Davies wedi dweud y gall y Gleision greu argraff yn y gystadleuaeth y flwyddyn yma.
‘‘Mi fydd hi’n gêm gorfforol, a bydd angen i ni fod ar ein gorau. Mae’n rhaid i ni fod yn realistig, mae gan y ddau dîm unigolion sy’n medru newid gêm, ond mae gennym ni chwaraewyr sydd wedi profi eu hunain yn ystod taith y Llewod yn yr haf drwy helpu’r garfan i gipio’r gyfres,’’ meddai Davies.
Mi fydd y gêm yn fyw ar Sky Sports 2 HD am 12:45 ddydd Sul.
Tîm y Gleision –
Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Cory Allen, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Rhys Patchell a Lloyd Williams.
Blaenwyr – Gethin Jenkins, Matthew Rees (Capten), Taufa’ao Filise, Bradley Davies, Filo Paulo, Josh Navidi, Sam Warburton a Andries Pretorius.
Eilyddion – Marc Breeze, Sam Hobbs, Scott Andrews, Lou Reed, Robin Copeland, Lewis Jones, Gareth Davies a Richard Smith.