Mae rheolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud nad oedd yn gwybod am fwriad Craig Bellamy i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol nes iddo ddarllen yr hanes mewn papur newydd.

Bydd Bellamy yn chwarae ei gêm gartref olaf dros Gymru yn erbyn Macedonia heno yn Stadiwm Caerdydd.  Mae Bellamy wedi ymddangos 76 o weithiau i Gymru cyn belled.

Ar ôl colli i Macedonia a Serbia y mis diwethaf, mae Cymru ar waelod y grŵp ac mae dyfodol Coleman yn y fantol.

Mae si y gallai Bellamy lenwi ei esgidiau.

Mae’r ffaith bod 10 o chwaraewyr, gan gynnwys y capten Ashley Williams heb eu cynnwys yn y garfan oherwydd anafiadau, yn mynd i fod yn ergyd galed i Coleman a oedd wedi gobeithio gorffen ymgyrch siomedig ar nodyn uchel.

Cymodi gyda Collins

Mae’r amddiffynnwr canol James Collins wedi ei alw i’r garfan ar ôl cymodi gyda Coleman.

“Mae hi yn mynd i fod yn anodd yn ystod y ddwy gêm nesaf gan ein bod heb nifer o chwaraewyr profiadol. Ond ar y llaw arall bydd yn gyfle i eraill gael blas o bêl-droed rhyngwladol,” meddai Coleman.

Er bod rheolwr Cymru yn cydnabod y gall ei gyfnod yn y swydd ddod i ben ar ôl y ddwy gêm nesaf, mae Jonathan Ford Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud na fydd Coleman yn cael ei farnu ar sail y ddwy gêm.  Daw cytundeb Coleman i ben ddiwedd Tachwedd.