Ponty Panda - masgot Pontypridd
Bydd Clwb Rygbi Pontypridd yn herio Academials Caeredin am y tro cyntaf erioed wrth iddyn nhw deithio i brifddinas yr Alban yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon ddydd Sadwrn.

Y gêm oddi cartref yng Nghaeredin fydd eu cyntaf yn y grŵp – ac mae disgwyl i dros 500 o gefnogwyr deithio i’r Alban gyda’r tîm!

Mae Pontypridd yn cystadlu yng Ngrŵp 2 y Gwpan, gydag Academials Caeredin, Cymry Llundain, ac Albanwyr Llundain.

“Mae’r gystadleuaeth hon yn golygu llawer i gefnogwyr Ponty,” meddai Swyddog Cyfryngau’r Clwb, Guto Davies.

“Mae’n rhoi’r cyfle i deithio dramor i wylio’r tîm yn chwarae.

“Ni wedi cael nifer tebyg o gefnogwyr yn dilyn Ponty ar deithiau i Ayr, Belfast a Dulyn dros y blynyddoedd diwethaf.”

Gobeithion

Ac fe fydd gan y clwb obeithion o fynd yn bell yn y gystadleuaeth y flwyddyn hon.

Llynedd dim ond un gêm gollodd Pontypridd yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon, a hynny oddi cartref yn erbyn Leinster A o Ddulyn, gyda’r Gwyddelod yn mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth.

Mae ‘Ponty’ ar hyn o bryd yn ail yn Uwch Gynghrair y Principality, ar ôl ennill pedair gêm a chael un gêm gyfartal hyd yn hyn.

Dyma’r garfan ar gyfer eu taith i Gaeredin:

Olwyr:

Geraint Walsh; Aled Summerhill; Owen Jenkins; Matthew Nuthall; Gavin Dacey; Dafydd Lockyer; Simon Humberstone; Dai Flanagan; Lloyd Williams; Tom Williams.

Blaenwyr:

Stuart Williams; James Howe; Chris Phillips; Keiron Jenkins; Huw Dowden; Rhys Williams; Craig Locke; Chris Dicomidis (c); Jordan Sieniawski; Jake Thomas; Luke Crocker; Thomas Young; Dan Godfrey.

Ar hyn o bryd mae Pontypridd yn brin o dri chwaraewr, sy’n cynrychioli carfan genedlaethol 7-bob-ochr Cymru – Adam Thomas (y capten), Alex Webber a Rhys Shellard – gyda’r dirprwy-hyfforddwr Paul John hefyd i ffwrdd gyda’r garfan genedlaethol.

Mae capten presennol y clwb, Chris Dicomidis, wedi cynrychioli Cymru ar lefel ieuenctid a Dan-20, ond hefyd wedi cynrychioli Cyprus dros y ddau dymor diwethaf gan fod ei dad-cu yn hanu o’r ynys.

Dicomidis a’r prop Keiron Jenkins yw’r unig chwaraewyr sydd wedi chwarae pob gêm i Ponty hyd yn hyn y tymor hwn.

Mae ‘na gystadleuaeth teuluol yn y tîm hefyd gyda dau frawd o Dreorci – Lloyd a Tom Williams – yn ymladd am safle’r mewnwr!

Bydd Golwg360 yn adrodd nôl ar gêm Pontypridd yn erbyn Academials Caeredin dros y penwythnos – yn y cyfamser, pob lwc i’r bechgyn!

Cliciwch yma i weld ein cyflwyniad i dîm yr wythnos.

Defnyddiwch #timyrwythnos i drafod yr eitem hon ar Twitter.