Mewn eitem wythnosol newydd, bydd Golwg360 yn rhoi sylw i dîm chwaraeon lleol, gan ddod i nabod rhai o’r cymeriadau ac edrych ymlaen i’w gêm ar y penwythnos. Yr wythnos hon, Clwb Rygbi Pontypridd sy’n hawlio’r llwyfan.

Proffil y Clwb

Enw: Clwb Rygbi Pontypridd

Llysenw: Ponty

Ffurfiwyd: 1876

Cae: Ffordd Sardis (lle i 7,861)

Lliwiau: Du a Gwyn

Prif Hyfforddwr: Dale McIntosh

Dirprwy-Hyfforddwyr: Paul John, Gareth Wyatt

Rheolwr y Tîm: Richard Langmead

Mae llawer o sylw’n cael ei roi i glybiau chwaraeon mawr Cymru, boed hi’n gewri’r Uwch Gynghrair, Abertawe a Chaerdydd, Rhanbarthau’r Pro12, timau pêl-droed Casnewydd a Wrecsam, a hyd yn oed Uwch Gynghrair Pêl-droed Cymru.

Ond mae Golwg360 nawr am gychwyn ar daith o gwmpas Cymru gan roi sylw i rai o’r clybiau mwy lleol, ar bob math o wahanol lefelau a champau, er mwyn portreadu chwaraeon yn ein gwlad sydd ddim o dan y microsgop o ddydd i ddydd.

A ble gwell i ddechrau na Chlwb Rygbi Pontypridd? Un o glybiau mwyaf Uwch Gynghrair y Principality, cafodd Pontypridd dymor llwyddiannus tu hwnt wrth ennill Cynghrair Cymru a Chwpan SWALEC y llynedd i gwblhau’r dwbl am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Ac ar drothwy gêm enfawr y penwythnos hwn wrth iddyn nhw deithio i Gaeredin i herio Academials Caeredin yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon, maen nhw wedi agor y drysau i Golwg360 gael cip ar y clwb.

Dyma rai o’r chwaraewyr yn cyflwyno’i hunain:

Rhywfaint o Gymraeg

Mae’r clwb hefyd wedi bod rhan o ymgyrch i gynyddu’i defnydd o’r Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, polisi sydd wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Rygbi.

Ond yn wahanol i’r Undeb, sydd dal heb wefan cyfrwng Gymraeg, mae Pontypridd wedi dechrau cymryd y camau i sicrhau mwy o’r iaith yn eu cyhoeddiadau.

“Beth ‘dy ni’n ceisio gwneud yw normaleiddio’r defnydd o’r iaith, fel bod cefnogwyr, swyddogion a chwaraewyr yn dod i arfer gyda chlywed defnydd o’r Gymraeg,” meddai Guto Davies.

“Unwaith ma’ nhw’n gyfforddus gyda’r iaith, allen nhw fynd yn bellach.”

Mae rhai o’r camau sydd eisoes wedi’u cymryd gan y clwb yn cynnwys erthyglau iaith Gymraeg ar eu gwefan, yn ogystal ag yng nghylchgrawn y gêm bob tri neu bedwar rhifyn.

Mae caneuon Cymraeg yn cael eu chwarae’n achlysurol ar yr uchelseinydd yn ystod gemau hefyd, ac mae gwersi Cymraeg bellach yn cael eu cynnal yn y clwb.

Er bod nifer o chwaraewyr y tîm hefyd yn medru siarad Cymraeg, dywedodd Guto nad oedden nhw’n gwneud hynny’n aml wrth sgwrsio o ddydd i ddydd.

“Mae’n ddeilema sylfaenol i ddyfodol yr iaith,” meddai. “Yn enwedig mewn ardaloedd fel cymoedd y de.”

Gallwch ddarllen mwy am eu gêm fawr y penwythnos hwn yma, ac am fwy o wybodaeth am y clwb ewch i’w gwefan www.ponty.net.

Gohebydd: Iolo Cheung

Ebostiwch ni os ydych am i’ch clwb chi am fod yn ‘Dîm yr wythnos Golwg360’