Sam Warburton
Mae Capten Cymru a’r Llewod, Sam Warburton yn awyddus i sicrhau cytundeb newydd cyn y Nadolig wrth i’w gytundeb presennol ddod i ben ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd ei sylwadau yn rywfaint o ryddhad i Undeb Rygbi Cymru sydd wedi gweld nifer o’u chwaraewyr blaenllaw yn symud i Ffrainc a Lloegr.

‘‘Rwyf wedi dweud wrthyn nhw mai yma hoffwn chwarae’r tymor nesaf, rwyf yn ymwybodol ni allaf ddylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd.  Gobeithio y gallen nhw ei ddatrys cyn y Nadolig,’’ meddai Warburton.

Bydd yn rhaid i Gaerdydd benderfynu ymuno â’r gystadleuaeth Ewropeaidd newydd neu i aros yn y Cwpan Heineken.  Pe bai Caerdydd yn ymuno â’r gystadleuaeth newydd, bydd ei gyllid canolog yn cael ei ostwng yn sylweddol.

Mae asiant Warburton wedi cyfaddef na all Caerdydd wneud cynnig ffurfiol tra bod eu cyllideb mor ansicr.

‘‘Ni allwch aros tan ddiwrnod olaf y tymor oherwydd bydd neb eisiau chi adeg hynny.  Mae’n sefyllfa ryfedd, rwyf o hyd wedi ymestyn fy nghytundebau gyda’r Gleision,’’ ychwanegodd Warburton.