Mae’r ystadegau diweddaraf yn awgrymu bod canran o’r munudau a chwaraeir gan bêl-droedwyr Cymreig yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi cynyddu.

Hyd yn hyn y tymor hwn mae chwaraewyr Cymraeg wedi chwarae 3.12% o gyfanswm y munudau yn yr Uwch Gynghrair, yn ôl astudiaeth ‘Cyflwr y Gêm’ BBC Sport, a ddaeth o ffigyrau Opta.

Mae hyn o’i gymharu â 2.51% o’r munudau a chwaraewyd gan bêl-droedwyr Cymru yn nhymor 2007/08.

Mae’r un peth yn wir am y Bencampwriaeth, ble mae canran munudau chwaraewyr Cymreig wedi codi dros yr un cyfnod o 3.69% i 4.53%.

Gwelwyd cynnydd yn y canran y munudau yn Uwch Gynghrair yr Alban hefyd, gyda Chymry bellach yn 6ed ar y rhestr gan chwarae 1.84% o funudau.

Ar draws cyfartaledd y dair cynghrair, mae canran munudau’r Cymry wedi codi o 2.65% i 3.54%, ac maen nhw bellach yn bedwerydd o ran gwledydd y tu ôl i Loegr, yr Alban ac Iwerddon.

Stori wahanol i Loegr

Nid yw’r newyddion cystal i chwaraewyr Lloegr, fodd bynnag, sydd wedi gweld canran eu munudau ar y cae yn yr Uwch Gynghrair yn disgyn o 35.25% i 31.8% dros yr un cyfnod.

Mae canran munudau Uwch Gynghrair chwaraewyr Gweriniaeth Iwerddon hefyd wedi gostwng o 6% i 4.7%, tra bod canran yr Albanwyr wedi codi ychydig i 3.22%.

Mae’r gwledydd sydd wedi cynyddu canran o funudau eu chwaraewyr yn cynnwys Sbaen, Ffrainc, yr Iseldiroedd a Gwlad Belg.