Malky Mackay
Ni fydd Malky Mackay yn ymddiswyddo fel rheolwr Caerdydd er gwaetha’r ffaith bod y clwb wedi gwahardd un o’i staff mwyaf dibynadwy.
Ddoe, cafodd y pennaeth recriwtio, Iain Moody, a oedd yn gweithio i Malky Mackay yn ystod ei gyfnod yn Watford cyn symud gydag o i Gaerdydd yn 2011, ei ddisodli gan Kazakhstani Alisher Apsalyamov sy’n 23 mlwydd oed.
Dwy’r rheswm am y gwaharddiad heb gael ei gyhoeddi ond mae’n debyg bod Kazakhstani Alisher Apsalyamov yn ffrind i fab y cadeirydd, Vincent Tan.
Ymunodd Apsalyamov â’r clwb ym mis Chwefror, ond nid yw ei enw yn ymddangos ar restr o aelodau staff allweddol ar wefan swyddogol y clwb.
Mae Malky Mackay wedi canmol gwaith recriwtio Ian Moody yn aml ac yn ystod ei gyfnod yn y clwb mae wedi llwyddo i ddenu chwaraewyr fel Steven Caulker, Gary Medel, Kevin Theophile-Catherine and Fraizer Campbell.
Ond, er ei bod hi’n hysbys ei fod wedi cael ei siomi gan y penderfyniad, fe fydd Malky Mackay yn parhau i fod wrth y llyw pan fydd Caerdydd yn wynebu Chelsea wythnos i ddydd Sadwrn.