Munster 23–9 Dreigiau Casnewydd Gwent
Munster aeth â hi mewn gêm ddigon diflas rhwng y Gwyddelod a’r Dreigiau yn y RaboDirect Pro12 ar Barc Musgrave nos Sadwrn.
Roedd y Cymry o fewn cyrraedd ar yr egwyl ond diflannodd unrhyw obaith yn gynnar yn yr ail hanner wrth iddynt orfod chwarae am ddeg munud gyda thri dyn ar ddeg yn dilyn dau gerdyn melyn.
Hanner Cyntaf
Munster oedd y tîm cryfaf yn y munudau agoriadol heb os ond cyfartal oedd hi wedi chwarter y gêm serch hynny wedi i’r maswyr, JJ Hanrahan a Kris Burton, gyfnewid dwy gic gosb yr un.
Bu rhaid aros tan bum munud cyn yr egwyl am y cais cyntaf a daeth hwnnw i’r prop, James Cronin, wedi i’r Dreigiau golli pêl eu hunain mewn lein amddiffynnol.
Ychwanegodd Hanrahan y trosiad i sefydlu saith pwynt o fantais i’r Gwyddelod ar hanner amser.
Ail Hanner
Caeodd Burton y bwlch i bedwar gyda mynydd o gic gosb yn gynnar yn yr ail hanner ond diflannodd unrhyw obaith yn fuan wedyn pan anfonwyd dau o bac y Dreigiau i’r gell gosb.
Cafodd Andrew Coombs ei yrru oddi ar y cae am ddeg munud am ddefnyddio’i droed yn beryglus ac ymunodd Jevon Groves ag ef o fewn munud am ddymchwel sgarmes symudol Munster.
Roedd cais i’r tîm cartref yn anorfod wedyn a’r capten, Peter O’Mahony, oedd y dyn i groesi. Ychwanegodd Hanrahan y trosiad i roi ei dîm 20-9 ar y blaen gyda hanner awr i fynd.
Fe wnaeth amddiffyn y Dreigiau yn eithaf da i beidio ildio dim mwy na un gic gosb gan Hanrahan wedi hynny ac yn wir, bu bron iddynt gipio pwynt bonws wrth bwyso am gais yn yr eiliadau olaf.
Roedd yr ymwelwyr yn edrych yn well tîm gyda Richie Rees a Jason Tovey ar y cae ond wedi dweud hynny, pas wael gan Tovey oedd y rheswm na chafodd y Dreigiau y cais cysur.
Mae’r Dreigiau yn llithro tri lle i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12 yn dilyn y canlyniad.
.
Munster
Ceisiau: James Cronin 35’, Peter O’Mahony 50’
Trosiadau: JJ Hanrahan 36’, 51’
Ciciau Cosb: JJ Hanrahan 7’, 19’, 62’
.
Dreigiau
Ciciau Cosb: Kris Burton 10’, 20’, 46’
Cardiau Melyn: Andrew Coombs 48’, Jevon Groves 49’