Connacht 26–43 Gweilch

Cafwyd gwledd o geisiau ar Faes Chwarae Galway yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn wrth i’r Gweilch guro Connacht.

Fe sgoriodd y tîm cartref ddau gais ond fe groesodd yr ymwelwyr o Gymru am chwech wrth ennill y gêm yn gyfforddus yn y diwedd a chodi i frig y tabl.

Hanner Cyntaf

Rhoddodd Craig Ronaldson fantais gynnar i Connacht gyda chic gosb cyn i Dan Biggar groesi am gais cyntaf y gêm a’i drosi i roi’r ymwelwyr ar y blaen.

Tiriodd Richard Fussell ail gais y gêm yn fuan wedyn ac roedd gan y Gweilch un ar ddeg pwynt o fantais wedi chwarter y gêm.

Daeth trydydd cais i Eli Walker wedyn wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae ond roedd Connacht o fewn cyrraedd o hyd ar yr egwyl diolch i dair cic gosb arall o droed Ronaldson, 12-22 ar hanner amser.

Ail Hanner

Roedd y Gwyddelod yn ôl yn y gêm wedi chwarter awr o’r ail hanner diolch i gais yr asgellwr, Danie Poolman, a throsiad yr eilydd faswr, Dan Parks.

Ond adferwyd y deg pwynt o fantais a sicrhawyd y pwynt bonws toc cyn yr awr pan groesodd y mewnwr, Tito Tebaldi, am bedwerydd cais y Gweilch.

Wnaeth Connacht ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt o fewn un sgôr eto yn fuan wedyn diolch i gais y canolwr, Eoin Griffin.

Y Gweilch, serch hynny a orffennodd y gêm orau ac fe sicrhaodd ceisiau hwyr Jeff Hassler ac Alun Wyn Jones fuddugoliaeth gymharol gyfforddus i’r rhanbarth o Gymru yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i frig tabl y Pro12, yn gyfartal gyda Glasgow ar un pwynt ar bymtheg.

.

Connacht

Ceisiau: Danie Poolman 55’, Eoin Griffin 62

Trosiadau: Dan Parks 56’, 63’

Ciciau Cosb: Craig Ronaldson 4’, 26’, 32’, 37’

.

Gweilch

Ceisiau: Dan Biggar 7’, Richard Fussell 15’, Eli Walker 29’, Tito Tebaldi 59’, Jeff Hassler 71’, Alun Wyn Jones 77’

Trosiadau: Dan Biggar 8’, 16’, 60’, 72’, 78’

Cic Gosb: Dan Biggar 35’