Aberystwyth 1–1 Y Bala


Cyfartal oedd hi rhwng Aberystwyth a’r Bala yng ngêm fyw Sgorio ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Ryan Valentine yr ymwelwyr ar y blaen gyda gôl dda toc cyn yr awr, ond fe darodd Aberystwyth yn ôl gyda gôl i’r eilydd, Stuart Fraser.

Roedd yr hanner cyntaf yn eithaf cyfartal o ran tir a meddiant ond does dim dwywaith mai Aberystwyth a gafodd y cyfleoedd gorau.

Gorfodwyd Ashley Morris yn y gôl i’r Bala i wneud arbediad da i atal cic rydd Craig Williams wedi chwarter awr, ac fe darodd peniad Stuart Jones o gic gornel Antonio Corbisiero yn erbyn y trawst ddeg munud yn ddiweddarach.

Geoff Kellaway a gafodd gyfle gorau’r tîm cartref ond peniodd yntau heibio’r postyn o chwe llath.

Y Bala a gafodd y dechrau gorau i’r ail hanner ac roeddynt yn haeddu mynd ar y blaen pan sgoriodd Valentine wedi chwarter awr. Curodd y cefnwr ei ddyn ar yr asgell dde cyn taro ergyd droed chwith isel gywir i’r gornel isaf o ugain llath.

Ymatebodd rheolwr ifanc Aber, Ian Hughes, i’r gôl gan anfon ambell eilydd ar y cae ac fe dalodd un newid ar ei ganfed wrth i Stuart Fraser unioni’r sgôr eiliadau’n unig ar ôl dod ar y cae. Tarodd ergyd dda i’r gornel uchaf yn dilyn gwaith creu Kellaway a Mark Jones.

Roedd ugain munud ar ôl wedi’r gôl honno ond er i’r ddau dîm greu hanner cyfleoedd aros yn gyfartal wnaeth hi.

Mae’r canlyniad yn codi Aber i’r pedwerydd safle yn y tabl ond yn cadw’r Bala yn y ddau isaf.

Ymateb

Cyfarwyddwr Pêl Droed y Bala, Colin Caton:

“Roedd o’n berfformiad mawr heddiw. Mae rhai o’r hogia’ wedi rhoi perfformiad unigol da iawn ac os gawn ni ddigon o berfformiadau unigol fel yna fe wnawn ni berfformio fel tîm yn y diwedd.”

Rheolwr Aberystwyth, Ian Hughes:

“Pwynt gwerthfawr yn y diwedd. Ar ôl mynd un i ddim i lawr roedd hi’n bwysig cael rhywbeth o’r gêm. Fe wnaethom ni rai newidiadau, roedd hi’n bwysig i ni gael rhywbeth o’r gêm ac roeddem ni angen mwy yn y pen blaen felly dyna pam y daeth Stuart Fraser ymlaen.”

.

Aberystwyth

Tîm: Lewis, James (Morgan 68’), Corbisiero, Hoy, S. Jones (Nalborski 87’), Thomas, Venables, M. Jones, Kellaway, Davies, Williams (Fraser 70’)

Gôl: Fraser 72’

Cerdyn Melyn: Kellaway 66’

.

Y Bala

Tîm: Morris, Collins (Codling 80’), S. Jones, Valentine, Morley, Murtagh, Connolly, M. Jones, Edwards, Sheridan, Smith

Gôl: Valentine 59’

.

Torf: 539