Wrecsam 1–1 Caergrawnt

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi rhwng Wrecsam a Chaergrawnt ar y Cae Ras yn Uwch Gynghrair Skrill brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Leon Clowes y Dreigiau ar y blaen yn gynnar cyn i Kwesi Appiah unioni i’r ymwelwyr cyn yr egwyl.

Roedd talcen caled yn wynebu Wrecsam wrth iddynt herio’r tîm sydd ar frig y Gyngres ond cawsant y dechrau gorau posib wrth i Clowes benio croesiad Johnny Hunt heibio i gyn gôl geidwad y Dreigiau, Chris Maxwell, wedi dim ond chwe munud.

Ond dim ond deg munud a barodd y fantais cyn i Appiah fanteisio ar gic wael gôl-geidwad presennol Wrecsam, Joslain Mayebi, i unioni’r sgôr.

Ychydig iawn o gyfleoedd a gafodd y ddau dîm am weddill y gêm a bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yr un yn y diwedd.

Mae’r pwynt yn hen ddigon i gadw Caergrawnt ar frig y tabl ond mae Wrecsam yn llithro i’r pedwerydd safle ar bymtheg.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Clowes, Artell, Clarke, Harris, Hunt (Cieslewicz 79′), Theo Bailey-Jones, Anyinsah (Ogleby 76′), Carrington, Ormerod

Gôl: Clowes 6’

Cardiau Melyn: Carrington, Clarke, Harris, Theo Bailey-Jones

.

Caergrawnt

Tîm: Maxwell, Taylor, Coulson, Miller, Tait, Champion, Dunk (Cunnington 71′), Berry (Spillane 75′), Hughes, Sam-Yorke (Arnold 60′), Appiah

Gôl: Appiah 17’

.

Torf: 3,136