Casnewydd 2–1 Torquay
Cododd Casnewydd i’r wythfed safle yn yr Ail Adran ddydd Sadwrn gyda buddugoliaeth gartref yn erbyn Torquay ar Rodney Parade.
Roedd y tîm cartref ar y blaen ar yr egwyl diolch i ddwy gôl mewn wyth munud gan Ismail Yakubu a Danny Crow, ac er i Torquay daro’n ôl gyda gôl toc cyn yr awr fe ddaliodd tîm Justin Edinburgh eu gafael ar y fuddugoliaeth.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae pan darodd Yakubu gic rydd i gefn y rhwyd yn dilyn trosedd Ben Harding ar Robbie Willmott.
Roedd hi’n ddwy yn fuan wedyn diolch i Danny Crow ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl gyda Chasnewydd yn gyfforddus.
Yn ôl y daeth Torquay yn yr ail hanner serch hynny ac roeddynt o fewn gôl toc cyn yr awr yn dilyn cynnig da Adebayo Azeez. Fe gafodd yr ymwelwyr gyfleoedd eraill yn yr hanner awr olaf hefyd ond daliodd Casnewydd eu gafael ar y tri phwynt.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi Casnewydd i’r wythfed safle yn y tabl, bwynt yn unig o safleoedd ail gyfle’r Ail Adran wedi naw gêm.
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Pipe, Yakubu, Worley, Hughes, James, Chapman, Willmott (Jackson 81′), Flynn (Naylor 63′), Crow (Zebroski 63′), Washington
Goliau: Yakubu 28’, Crow 36’
Cerdyn Melyn: Willmott 72’
.
Toequay
Tîm: Rice, Tonge (Benyon 82′), Nicholson, Pearce, Cruise, Lathrope, Mansell, Harding, Bodin, Chapell (Adebayo Azeez 54′), Ball (Hawley 76′)
Gôl: Adebayo Azeez 58’
Cardiau Melyn: Lathrope 17’, Bodin 62’
.
Torf: 3,557