Fulham 1–2 Caerdydd

Cafodd Caerdydd eu buddugoliaeth oddi cartref gyntaf yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn wrth guro Fulham yn Craven Cottage.

Rhoddodd Steven Caulker y Cymry ar y blaen yn gynnar cyn i Brian Ruiz unioni funud cyn yr egwyl. Yna, yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm fe rwydodd yr eilydd, Jordan Mutch, i gipio tri phwynt i’r ymwelwyr.

Deuddeg munud yn unig oedd ar y cloc pan beniodd Caulker Gaerdydd ar y blaen o gic gornel Peter Wittingham.

Bu bron i’r amddiffynnwr ddyblu’r fantais yn fuan wedyn ond cafodd ei ail gynnig ei atal gan Brede Hangeland. A phan wnaeth Caulker rwydo am yr eildro barnwyd bod trosedd wedi bod ar gôl-geidwad Fulham, David Stockdale, felly wnaeth hi ddim cyfrif.

Caerdydd, heb os, oedd tîm gorau’r hanner ond cyfartal oedd hi ar yr egwyl diolch i gôl wych Brian Ruiz. Derbyniodd y bêl o’r dde gan Sascha Riether cyn crymanu ergyd droed chwith ragorol i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Cafodd Dimitar Berbatov a Fraizer Campbell gyfleoedd da i’w hennill hi i’w timoedd yn yr ail gyfnod ond bu rhaid aros tan yr eiliadau olaf cyn i Mutch wneud hynny i Gaerdydd gyda gôl arbennig. Rheolodd yr eilydd gic hir David Marshall cyn taro ergyd i’r gornel uchaf o bellter.

Gôl a oedd yn haeddu ennill gêm a pherfformiad a oedd yn llawn haeddu tri phwynt gan Gaerdydd.

Mae’r canlyniad yn codi’r Adar Gleision i’r deuddegfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, uwch ben y pencampwyr Man U o bawb!

.

Fulham

Tîm: Stockdale, Hangeland, Richardson, Riether, Amorebieta, Sidwell, Kasami, Kacaniklic (Ruiz 41′), Parker (Karagounis 7′), Berbatov, Bent (Taarabt 86′)

Gôl: Ruiz 45’

Cerdyn Melyn: Berbatov 64’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Caulker, Turner, Theophile-Catherine, Whittingham, Medel, Kim Bo-Kyung (Mutch 56′), Gunnarsson, Campbell (Maynard 72′), Odemwingie (Bellamy 81′)

Goliau: Caulker 12’, Mutch 90’

Cerdyn Melyn: Theophile-Catherine 32’

.

Torf: 23,020