Caeredin 9–22 Scarlets

Cafodd y Scarlets daith lwyddiannus i Murrayfield nos Wener wrth iddynt guro Caeredin yn y RaboDirect Pro12.

Sgoriodd Nick Reynolds unig gais yr hanner cyntaf ac ychwanegodd Jordan Williams a Jonathan Davies un yr un yn yr ail gyfnod wrth i’r ymwelwyr ennill yn gymharol gyfforddus.

Hanner cyntaf

Yn dilyn ugain munud cyntaf digon di fflach fe gafwyd ychydig mwy o gyffro yn ail hanner yr hanner cyntaf.

Anfonwyd clo’r Scarlets, Jake Ball, i’r gell gosb i ddechrau cyn i Harry Leonard a Rhys Priestland gyfnewid pwyntiau cyntaf y gêm.

Yna, bum munud cyn yr egwyl daeth y cais agoriadol pan groesodd yr asgellwr, Nick Reynolds, yn y gornel dde yn dilyn cyfnod o bwyso gan y Scarlets.

Rhoddodd trosiad Priestand y Scarlets saith pwynt ar y blaen cyn i Leonard gau’r bwlch i bedwar gyda chic olaf yr hanner.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail gyfnod gyda cherdyn melyn arall i Fois y Sosban, yr Albanwr, John Barclay, yn cael ei gosbi y tro hwn am ladd y bêl mewn ardal beryglus. Ychwanegodd Leonard y tri phwynt i gau’r bwlch i un.

Tarodd pedwar dyn ar ddeg y Scarlets yn ôl gyda chais gorau’r gêm, ymdrech unigol dda gan Jordan Williams. Daliodd gic amddiffynnol gan Gaeredin cyn rhedeg yn syth yn ôl at eu llinell gais gan guro dau neu dri ar ei ffordd.

Cyfle Caeredin i chwarae gydag un yn llai oedd hi toc wedi’r awr pan dderbyniodd y prop, WP Nel, ddeg munud o gosb a manteisiodd y Scarlets gyda thrydydd cais i sicrhau’r fuddugoliaeth. Un digon tebyg i’r ail oedd hwn, disgynnodd cic amddiffynnol i ddwylo Priestland y tro hwn a rhoddodd yntau gic i Jonathan Davies ei dilyn a sgoriodd yntau.

9-22 y sgôr o blaid y Cymry yn dilyn trosiad Priestland ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd. Mae’r canlyniad yn codi Bois y Sosban ddau le i’r seithfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Caeredin

Ciciau Cosb: Harry Leonard 29’, 40’, 42’

Cerdyn Melyn: WP Nel 64’

.

Scarlets

Ceisiau: Nick Reynolds 35’, Jordan Williams 46’, Jonathan Davies 72’

Trosiadau: Rhys Priestland 36’, 72’

Cic Gosb: Rhys Priestland 32’

Cardiau Melyn: Jake Ball 23’, John Barclay 41’, Rob Evans 79’