Leinster 34–20 Gleision Caerdydd

Colli fu hanes y Gleision yn y RaboDirect Pro12 yn erbyn Leinster ar yr RDS yn Nulyn nos Wener.

Roedd y rhanbarth o Gymru yn gystadleuol trwy gydol y gêm ond roedd y Gwyddelod yn rhy gryf yn y bôn, hyd yn oed gyda chapten Cymru a’r Llewod, Sam Warburton, yn ôl yn nhîm y Gleision.

Hanner Cyntaf

Roedd angen perfformiad ar y Gleision i adfer eu hunan barch yn dilyn y canlyniad hynod siomedig yn erbyn Zebre yr wythnos diwethaf, ac fe ddechreuodd yr ymwelwyr yn dda iawn yn Nulyn.

Llwyr reolodd y Gleision y munudau agoriadol ac roeddynt yn llawn haeddu bod ar y blaen diolch i dri phwynt o droed y maswr, Rhys Patchell.

Yna, wedi ychydig llai na chwarter awr o chwarae daeth cais yn erbyn llif y chwarae i Leinster wrth i’r bachwr, Sean Cronin, hollti trwy’r amddiffyn ar ymweliad cyntaf y Gwyddelod â 22 medr y Gleision. Ychwanegodd Ian Madigan y trosiad cyn llwyddo gyda dwy gic gosb hefyd i sefydlu deg pwynt o fantais i’r tîm cartref.

Ond gorffennodd y Gleision yr hanner yn gryf a dim ond un sgôr oedd ynddi ar yr egwyl yn dilyn ail gic gosb Halfpenny.

Ail Hanner

Roedd Leinster yn well wedi’r egwyl ac roedd yn rhaid i’r Gleision frwydro yn erbyn ambell i benderfyniad gwael gan y dyfarnwr, Marius Mitrea, hefyd.

Anfonwyd clo’r ymwelwyr, Filo Paulo, i’r gell gosb am drosedd yn ardal y dacl a dyfarnodd Mitrea gais cosb dadleuol o’r sgrym ganlynol. 20-6 y sgôr yn dilyn trosiad Madigan.

Roedd hi’n anodd gweld ffordd yn ôl i’r Gleision wedi hynny ond roeddynt yn ôl o fewn un sgôr yn fuan diolch i gais unigol gwych Alex Cuthbert. Chwarter cyfle a gafodd yr asgellwr ond roedd yn ddigon iddo daranu heibio Rob Kearney ar yr ochr allan i sgorio cais gorau’r gêm.

Daeth penderfyniad gwael arall gan yr Eidalwr yn y canol wedyn wrth i Mitrea wrthod cais i Harry Robinson. Roedd y dyfarnwr yn meddwl fod Cuthbert wedi taro’r bêl ymlaen yn y symudiad er mai oddi ar ysgwydd chwaraewr Leinster y daeth hi.

Ac i rwbio halen yn y briw fe sgoriodd y Gwyddelod ddau gais mewn cyfnod byr yn fuan wedi hynny i roi’r gêm o afael y Gleision. Croesodd y blaenasgellwr, Dominic Ryan, i ddechrau cyn i Madiagn goroni perfformiad da ganddo ef gyda chais.

Roedd digon o amser ar ôl i’r eilydd ganolwr, Cory Allen, sgorio cais cysur i’r Gleision ond roedd y cloc yn drech na hwy wrth iddynt geisio un arall ar gyfer pwynt bonws, 34-20 y sgôr terfynol o blaid Leinster.

Mae’r Gleision yn llithro un lle i’r wythfed safle yn nhabl y Pro12 o ganlyniad i’r golled.

Ymateb

Sam Warburton:

“Roedd heno’n welliant aruthrol ar gêm Zebre yr wythnos diwethaf. Fe wnaethom ni anghofio am honno’n gynnar yn yr wythnos ac ymarfer yn dda ar gyfer y gêm hon.”

“Roeddem ni’n wirioneddol yn meddwl fod gennym gyfle da heno ac fe wnaethom ni chwarae’n dda mewn rhai agweddau. Roedd yna ambell i gamgymeriad ond gallwn weithio ar rheiny ac fe allwn gymryd dipyn o falchder o’r perfformiad hwn heno.”

.

Leinster

Ceisiau: Sean Cronin 14’, Cais Cosb 49’, Dominic Ryan 65’, Ian Madigan 72’

Trosiadau: Ian Madigan 15’, 49’, 66’, 73’

Ciciau Cosb: Ian Madigan 22’, 24’

.

Gleision

Ceisiau: Alex Cuthbert 53’, Cory Allen 77’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 54’, Rhys Patchell 77’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 6’, 29’

Cerdyn Melyn: Filo Paulo 47’