Chris Coleman
Mae’n ymddangos bod Chris Coleman dan bwysau i gadw’i swydd yn reolwr Cymru.

Yr oedd ar fin arwyddo cytundeb am ddwy flynedd arall wrth y llyw, cyn i’r tîm cenedlaethol golli eu dwy gêm ddiwethaf.

Ond ers colli oddi cartref yn erbyn Macedonia 2 – 1, a chartref 3-0 yn erbyn Serbia, mae’r pwysau wedi cynyddu ar Coleman.

Dim ond tair gêm o’i 12 mae Cymru wedi ennill dan Coleman.

Mae adroddiadau bod Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, wedi dweud wrth Coleman bod yn rhaid i’r canlyniadau a’r perfformiadau wella yn ystod y ddwy gêm nesaf os yw am gael cytundeb newydd. Bydd Cymru yn herio Macedonia a Gwlad Belg ym mis Hydref

‘‘Yr ydym yn dal i drafod gyda Chris ac mae dwy gêm i’w chwarae eto ac ni fyddai’n deg rhoi mwy o fanylion ar hyn o bryd,’’ meddai Ford.

‘‘Yn sicr mae’n ymwybodol bod angen dwy gêm dda arnom,’’ ychwanegodd Ford.