Ni fydd wythwr y Llewod Toby Faletau yn chwarae i’r Dreigiau wrth iddyn nhw herio Munster Musgrave Park nos yfory.
Ni fydd y bachwr Rhys Thomas yn chwarae oherwydd anaf i’w bigwrn a ddioddefodd yn ystod buddugoliaeth y rhanbarth dros y Scarlets yr wythnos ddiwethaf. Mi fydd y mewnwr Jonathan Evans yn chwarae am y tro cyntaf y tymor hwn tra bydd Richie Rees yn eilydd.
Mi fydd y gêm yn fyw ar S4C am chwarter i saith nos yfory.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Dan Evans, Matthew Pewtner, Ross Wardle, Jack Dixon, Tom Prydie, Kris Burton a Jonathan Evans.
Blaenwyr – Phil Price, Hugh Gustafson, Francisco Chaparro, Andrew Coombs (Capten), Matthew Screech, Jevon Groves, Lewis Evans a Netani Talei.
Eilyddion – Sam Parry, Owen Evans, Dan Way, Rob Sidoli, Ieuan Jones, Richie Rees, Jason Tovey, Adam Hughes.