Rob McCusker
Heno fe fydd y Scarlets yn herio Caeredein yn Murrayfield.

Bydd y canolwr a oedd mor allweddol i dîm y Llewod yn ystod yr haf, Jonathan Davies, yn arwain ei dîm am y tro cyntaf y tymor hwn. Hefyd bydd ei gyd-gapten Rob McCusker yn chwarae am y canfed tro dros y rhanbarth.

Meddai Simon Easterby, rheolwr y Scarlets: ‘‘Mi fydd hi’n gêm gystadleuol, mae gan Caeredin unigolion allweddol sydd dan ofal hyfforddwr profiadol.  Mae ganddyn nhw flaenwyr sy’n medru ennill tir yn ogystal â chyflymder ar yr asgell.’’

Pump newid sydd i’r tîm a gollodd yn erbyn y Dreigiau yr wythnos ddiwethaf.  Ni fydd Kristian Phillips, Aaron Shingler, Gareth Davies, Gareth Owen, Deacon Manu nac ychwaith Steve Shingler yn chwarae oherwydd anafiadau.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Liam Williams, Nick Reynolds, Jonathan Davies (Capten), Scott Williams, Jordan Williams, Rhys Priestland a Rhodri Williams.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, Jake Ball, Joe Snyman, Josh Turnbull, John Barclay a Rob McCusker (Capten).

Eilyddion – Ken Owens, Rob Evans, Jacobie Adriaanse, George Earle, Sione Timani,, Aled Davies, Aled Thomas a Gareth Maule.