Bydd y blaenasgellwr Justin Tipuric yn cychwyn am y tro cynaf dros y Gweilch y tymor hwn.  Ymddangosodd am ychydig i’r Gweilch yn eu buddugoliaeth dros Caeredin yr wythnos diwethaf yn y Liberty.

A bydd pump Llew ymhlith y blaenwyr nos yfory i’r Gweilch, ac mae’r rheolwr Steve Tandy yn gobeithio y bydd yn hwb i’r rhanabrth.

Meddai Tandy: ‘‘Rwy’n hynod o falch, mae’r bechgyn wedi bod yn ymarfer yn galed ers dod yn ôl o Awstralia.  Maen nhw wedi dod ag egni ychwanegol i’r garfan sydd yn arbennig i’r rhanbarth.  Mae’n mynd i fod yn gêm anodd ac yn un gorfforol. ’’

Tîm y Gweilch

Olwyr – Richard Fussell, Jeff Hassler, Ben John, Ashley Beck, Eli Walker, Dan Biggar a Tito Tebaldi.

Blaenwyr -Duncan Jones, Scott Baldwin, Adam Jones, Alun Wyn Jones (Capten), Ian Evans, James King, Justin Tipuric a Morgan Allen.

Eilyddion – Richard Hibbard, Ryan Bevington, Aaron Jarvis, Tyler Ardron, Joe Bearman, Tom Habberfield, Matthew Morgan a Jonathan Spratt.