Sam Warburton - wedi gwella
Fe fydd Capten y Llewod, Sam Warburton yn dychwelyd i dîm y Gleision nos fory, wedi iddo wella yn gynt na’r disgwyl o’i anafiadau.
‘‘Rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau ac yn edrych ymlaen i herio’r Pencampwyr. Byddwn yn rhoi llawer o emosiwn mewn i’r gêm nos yfory yn ogystal â sgil a rheolaeth,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.
“Mae’r garfan wedi bod yn ymarfer yn dda, ac rwy’n teimlo ein bod wedi adeiladu ar y gwaith da yr ydym wedi cyflawni yn ystod y tair neu bedair wythnos ddiwethaf,’’ ychwanegodd Davies.
Bydd Harry Robinson yn dychwelyd i’r asgell chwith tra bod Lloyd Williams yn safle’r mewnwr. Mae yna ychydig o newidiadau yn y blaenwyr, bydd Matthew Rees yn dechrau yn safle’r bachwr a Sam Hobbs yn gwneud ei ddechreuad cyntaf y tymor hwn yn safle’r prop.
Tîm y Gleision
Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Owen Williams, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Rhys Patchell a Lloyd Williams
Blaenwyr – Sam Hobbs, Matthew Rees (Capten), Taufa’ao Filise, Lou Reed, Filo Paulo, Josh Navidi, Sam Warburton a Andries Pretorius
Eilyddion – Kristian Dacey, Thomas Davies, Scott Andrews, James Down, Robin Copeland, Lewis Jones, Gareth Davies a Cory Allen