Bydd Cymru’n herio’r Ffindir mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd.

Bydd y gêm yn gyfle cyntaf i reolwr Cymru Chris Coleman geisio paratoi’r tîm ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2016, sy’n dechrau ym mis Medi 2014.

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil bellach ar ben gydag ond dwy gêm yn weddill o’r gemau rhagbrofol, yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg ym mis Hydref.

Ond mae Coleman eisoes yn edrych i’r dyfodol.

“Mae hon yn gêm berffaith i ni wrth fynd yn ein blaenau,” dywedodd y rheolwr wrth wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae gan y Ffindir wastad chwaraewyr technegol cryf ac nid oes amheuaeth y bydd hi’n gêm galed i ni.”

Hon fydd y tro cyntaf i’r ddwy wlad wynebu ei gilydd ers 2009, pan enillodd y Ffindir o ddwy gôl i un yn Helsinki mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd.