Michael Laudrup
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup wedi dweud bod Abertawe wedi colli cyfleoedd yn ystod yr hanner cyntaf yn y gêm yn erbyn Birmingham City yng nghystadleuaeth Cwpan y Gynghrair neithiwr.
Fe gollodd yr Elyrch o 3-1 yn erbyn Birmingham neithiwr.
‘‘Naethon ni greu nifer o gyfleoedd, dylem fod wedi sgorio mwy, gallwn ni o leiaf wedi sgorio pedair gôl cyn hanner amser. Yn y pen draw, fe gollon ni’r gêm, mor syml â hynny,’’ meddai Laudrup.
Fe wnaeth Laudrup deg newid i’w dîm ers y penwythnos diwethaf – y chwaraewr canol cae Jonjo Shelvey oedd yr unig chwaraewr i aros yn y tîm.
‘‘Rwyf eisiau gwneud fy ngorau ym mhob un o’r cystadlaethau, dwi ddim yn difaru gwneud newidiadau i’r tîm o gwbl. Dwi ddim yn beio unigolion,’’ ychwanegodd Laudrup.