Gleision Caerdydd 25–30 Zebre
Doedd popeth ddim yn ddu a gwyn i’r Gleision wrth i Zebre ymweld â Pharc yr Arfau yn y RaboDirect Pro12 nos Wener.
Cafodd y rhanbarth o’r Eidal fuddugoliaeth annisgwyl ym mhrifddinas Cymru diolch i ddau gais yn y chwarter awr olaf. Hon oedd eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn y gystadleuaeth.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y noson yn dipyn gwell i’r Gleision gyda chais i’r canolwr, Dafydd Hewitt, a throsiad gan Leigh Halfpenny wedi llai na dau funud.
Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal serch hynny wedi chwarter awr diolch i gais y blaenasgellwr profiadol, Mauro Bergamasco a throsiad maswr rhyngwladol yr Eidal, Luciano Orquera.
Ychwanegodd Orquera ddwy gic gosb cyn yr egwyl hefyd, ac er i Halfpenny lwyddo gydag un yn y pen arall, Zebre oedd ar y blaen ar yr egwyl.
Ail Hanner
Unionodd Halfpenny yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Oruquera adfer tri phwynt o fantais i’w dîm ychydig funudau’n ddiweddarach. Ond y tîm cartref oedd ar y blaen chwarter awr o’r diwedd yn dilyn dwy gic lwyddiannus arall gan arwr y Llewod, Halfpenny.
Ond doedd ymdrechion y llew ddim yn ddigon i glwyfo’r Sebras a gorffennodd yr ymwelwyr y gêm ar dân gyda dau gais.
Croesodd yr asgellwr, David Odiete, i ddechrau cyn i’r mewnwr, Brendon Leonard, ychwanegu un arall. Trosodd Orquera y ddau gan orffen y gêm gyda phymtheg pwynt, ac er i Halfpenny ychwanegu dwy gic gosb arall i’w gyfanswm yntau hefyd, nid oedd hynny’n ddigon i atal buddugoliaeth gyntaf erioed i Zebre yn y Pro12.
Mae’r Gleision yn aros yn y chweched safle yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ac mae Zebre’n codi oddi ar y gwaelod am y tro cyntaf ers dros flwyddyn.
.
Gleision
Cais: Dafydd Hewitt 2’
Trosiad: Leigh Halfpenny 2’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 31’, 42, 49’, 63’, 68’, 75’
.
Zebre
Ceisiau: Mauro Bergamasco 14’, David Odiete 66’, Brendon Leonard 72’
Trosiadau: Luciano Orquera 14’, 66’, 72’
Ciciau Cosb: Aluciano Orquera 20’, 35’, 47’
Cerdyn Melyn: Luca Redolfini 75’