Mae’r Gweilch wedi arwyddo mewnwr Canada, Phil Mack ar gytundeb tymor byr oherwydd anafiadau i Rhys Webb a Tom Habberfield.

‘‘Rydym yn hapus iawn o fod wedi gallu arwyddo Phil, rhywun sydd â phrofiad yn y safle hollbwysig ar y cae,’’ meddai rheolwr gweithrediadau rygbi’r Gweilch, Andy Lloyd.

Cyn ymuno â’r Gweilch roedd Mack yn chwarae i’r British Columbia Bears ym Mhencampwriaeth Rygbi Canada.  Mae Mack wedi ennill 19 cap i Ganada ac ef yw’r trydydd gŵr o Ganada i ymuno â’r Gweilch ynghyd a Tyler Ardron a Jeff Hassler a gyrhaeddodd ar gae’r Liberty haf hwn.