Warren Gatland
Fe allai hyfforddwr Cymru Warren Gatland ddychwelyd i Seland Newydd os yw Cymru’n cael ymgyrch lwyddiannus yng Nghwpan y Byd yn 2015, yn ôl cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru, Jonathan Davies.

Cafodd y gŵr o Seland Newydd ei benodi yn 2008, ac mae ei gytundeb gydag Undeb Rygbi Cymru yn gorffen ar ôl y gystadleuaeth yn 2015.

Dywedodd Jonathan Davies: ‘‘Pe bai Cymru’n ennill Cwpan y Byd, gall ofyn am beth bynnag mae e eisiau –  byddai’n anodd iddo wrthod y swydd os daw Seland Newydd i ofyn iddo.”

Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis wedi dweud ei fod yn barod i drafod cytundeb Warren Gatland i aros yng Nghymru. Er nad oes dyddiad wedi cael ei bennu mae’r Undeb yn gobeithio cynllunio ar gyfer y tymor hir.