Steven Gerrard
Fe fydd pob math o gysylltiadau heno wrth i Abertawe groesawu Lerpwl i’r Liberty.

Yn ogystal â’r ffaith fod rheolwr y Cochion, Brendan Rodgers, yn dod yn ôl i’w hen glwb, fe fydd dau chwaraewr canol cae yn wynebu eu cyn gyd-chwaraewyr.

Mae Jonjo Shelvey o Abertawe’n dweud ei fod yn barod i wynebu ei hen glwb a’i arwr, Steven Gerrard.

Ond mae hefyd wedi pwysleisio’i fod yn falch o symud i dde Cymru er mwyn cael chwarae’n rheolaidd.

Allen yn ôl?

Mae posibilrwydd y gallai cyn chwaraewr Abertawe, Joe Allen, fod ar y fain car ôl cyfnod o anafiadau ac, yn ôl rheolwr yr Elyrch, Michael Laudrup, mae gan y Cymro’r gallu i lwyddo er gwaetha’ dechrau siomedig.

Mae yntau’n debyg o gynnig cyfle cynta’ i’w flaenwr newydd, Alvaro Vazquez, ar ôl iddo ddod i Abertawe o Sbaen.

Barn Laudrup am Vaxquez

Yn ôl Laudrup, mae gan y chwaraewr ifanc y math o sgiliau oedd eu hangen ar yr Elyrch.

“Roeddwn i wastad yn teimlo bod angen un blaenwr arall ac un gyda  nodweddion gwahanol i Wilflried Bony a Michu,” meddai.

“Roedden ni angen rhagor o ddyfnder yn ein carfan i redeg y tu ôl i’r amddiffyn ac fe fydd e’n rhoi’r symudiadau yna i ni.”