Jamie Roberts
Yn ôl adroddiadau yn Ffrainc, bydd canolwr Cymru a’r Llewod Jamie Roberts allan am ychydig wythnosau wedi iddo anafu ei bigwrn tra’n chwarae i Racing Metro.
Bydd y chwaraewr 26 oed yn colli’r gêm y penwythnos yma yn erbyn tîm mewnwr Cymru, Mike Phillips, a gallai fod ar yr ystlys tan fis nesaf.
Dim ond tair gêm y mae Roberts wedi chwarae i’w glwb newydd ers symud o Gleision Caerdydd dros yr haf.
Bydd Cymru yn gobeithio y bydd Roberts yn holliach ar gyfer ei gêm agoriadol yng ngemau’r Hydref sydd yn dechrau ar y nawfed o Dachwedd yn erbyn De Affrica.