Fe fydd y Gleision yn croesawu Connacht i Barc yr Arfau nos yfory.

Fe fydd hi’n noson arbennig i’r rheng-ôl Andries Pretorius a’r mewnwr Lloyd Williams sy’n cyrraedd carreg filltir am gynrychioli’r rhanbarth 50 o weithiau.

Fe wnaeth Pretorius ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf i Gymru yn ystod y daith i Japan – fe fydd Josh Navidi a Robin Copeland yn ymuno ag ef yn y reng-ôl.  Fe fydd Alex Cuthbert yn dychwelyd i’r Gleision a Dafydd Hewitt fydd yn safle’r canolwr.

‘‘Mae gan Connacht dîm da iawn, ac yn ystod yr haf maen nhw wedi bod yn brysur yn arwyddo chwaraewyr dawnus newydd.  Ein huchelgais y tymor hwn fydd i roi perfformiad da bob tro y byddwn yn chwarae ym Mharc yr Arfau, a manteisio ar y cae artiffisial,’’ meddai Phil Davies, rheolwr y Gleision.

Tîm y Gleision

Olwyr – Tom Williams, Alex Cuthbert, Owen Williams, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Rhys Patchell a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Taufa’ao Filise, Matthew Rees (Capten), Scott Andrews, Bradley Davies, Filo Paulo, Andries Pretorius, Josh Navidi a Robin Copeland.

Eilyddion – Kristian Dacey, Sam Hobbs, Benoit Bourrust, Lou Reed, Macauley Cook, Lewis Jones, Gareth Davies a Gavin Evans.