Tom Prydie
Ar ôl curo Ulster y penwythnos diwethaf, fe fydd y Dreigiau yn teithio i Murrayfield yn hyderus wrth iddyn nhw herio Caeredin.
Mi fydd Matthew Pewtner yn safle’r asgellwr yn lle Tom Prydie sydd yn dioddef o anaf i’w bigwrn, Pat Leach a Jack Dixon fydd yn rheoli’r canol cae a Jason Tovey fydd yn safle’r maswr, wedi iddo dderbyn gwobr seren y gêm y penwythnos diwethaf.
O ran y blaenwyr, Owen Evans fydd yn safle’r prop ac Adam Jones a Matthew Screech yn yr ail reng. Ac yn y rheng-ôl fe fydd Lewis Evans yn safle’r blaenasgellwr â’r wythwr rhyngwladol Netani Talei.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Dan Evans, Matthew Pewtner, Pat Leach, Jack Dixon, Hallam Amos, Jason Tovey a Richie Rees.
Blaenwyr – Owen Evans, T.Rhys Thomas (Capten), Dan Way, Adam Jones, Matthew Screech, Lewis Evans, Nic Cudd a Netani Talei.
Eilyddion – Hugh Gustafson, Phil Price, Francisco Chaparro, Rob Sidoli, Toby Faletau, Jonathan Evans, Kris Burton a Ross Wardle.