Mae rheolwr y Gleision, Phil Davies wedi cadarnhau y bydd asgellwr Cymru a’r Llewod, Alex Cuthbert yn dychwelyd i Barc yr Arfau i herio Connacht nos Wener.

Dyma fydd gêm gyntaf y Gleision ar y cae artiffisial ym Mharc yr Arfau.

‘‘Mae’n dda cael Alex Cuthbert yn ôl, gobeithio y bydd hyn yn ychwanegu cyffro i’r tîm cyfan.  Yn ogystal â Alex, mi fydd Andries Pretorius a Lou Reed yn dychwelyd sydd yn rhoi hwb mawr i ni,’’ meddai Phil Davies.

‘‘Roeddwn yn siomedig gyda’r canlyniad yn erbyn Glasgow, ond mae cipio pwynt oddi cartref yn rhywbeth cadarnhaol.  Roeddwn yn falch gyda rhai agweddau o’r gêm, ond roedd yna fannau gwan yr ydym wedi gweithio arnynt yr wythnos hon,’’ ychwanegodd Davies.

Datgelodd Davies hefyd bod y chwaraewyr yn edrych ymlaen at chwarae ar y cae newydd.

‘‘Mae’n edrych yn arbennig ac fe fydd  yn gyson trwy gydol y tymor,’’ ychwanegodd Davies.