James Collins
Mae amddiffynnwr Cymru, James Collins, wedi taro yn ôl am y feirniadaeth gafodd gan hyfforddwr y  tîm cenedlaethol Chris Coleman, gan fynnu nad yw wedi gwrthod chwarae dros ei wlad.

Roedd Cymru’n brin o opsiynau i chware yn safle’r canolwr yn y gêm yn rowndiau rhagbrofol cwpan y byd yn erbyn Serbia ddydd Mawrth gyda Ashley Williams wedi ei wahardd a Sam Ricketts wedi ei anafu. Colli 3 -0 oedd hanes Cymru.

Dywedodd Coleman nad oedd amddiffynnwr West Ham eisiau ymuno â’r garfan ond mae Collins wedi wfftio awgrymiadau iddo wrthod galwad gan y tîm cenedlaethol.

“Hoffwn egluro na fuodd Chris Coleman neu unrhyw un o Gymdeithas Bêl-droed Cymru mewn cysylltiad i ofyn i mi ymuno â’r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Serbia,” meddai mewn datganiad.

“Pe baen nhw wedi gofyn, buaswn yn falch o fod wedi ymuno â fy nghyd chwaraewyr ac o gynrychioli fy ngwlad.

“Rwy’n falch o ddod o Gymru a hyd yn oed yn fwy balch wrth wisgo crys coch fy ngwlad felly mae’r awgrym y byddwn byth yn gwrthod chwarae yn amlwg yn anghywir.”

Roedd Chris Coleman wedi dweud ei fod wedi bod yn siomedig gydag agwedd y chwaraewr 30 mlwydd oed.

“Esboniodd James i mi nad oedd am ymuno a’r garfan ar ôl bod wrth gefn oherwydd ei fod yn seicolegol siomedig,” meddai wrth y BBC.

“Ond nid dyna’r agwedd rwy’n chwilio amdano,” ychwanegodd.