Cwpan Heineken
Mae rhanbarthau rygbi Cymru’n wynebu bygythiad mawr arall wrth i glybiau Ffrainc a Lloegr fygwth gadael Cwpan Heineken a chreu eu cystadleuaeth eu hunain.
Fe gyhoeddodd cynrychiolwyr clybiau’r ddwy wlad eu bod wedi methu â dod i gytundeb gyda threfnwyr y gystadleuaeth Ewropeaidd ond eu bod wedi cytuno ar egwyddor cystadleuaeth arall.
Maen nhw’n dweud y byddai honno’n gystadleuaeth i 20 tîm a bod croeso i glybiau o wledydd eraill ymuno.
Pe bai’n digwydd, fe allai’r gystadleuaeth newydd fynd ag arian teledu Cwpan Heineken a’r ail gystadleuaeth, Cwpan Amlin, gan fygwth incwm y rhanbarthau a’r clybiau Cymreig, Gwyddelig ac Eidalaidd sydd yn y gystadleuaeth Pro12.
Y cwynion
- Cwyn y clybiau o Loegr a Ffrainc yw bod gan y gwledydd eraill fantais o ran ennill lle yng Nhwpan Heineken, gyda gwarant o le i hyn a hyn o glybiau.
- Maen nhw’n dweud eu bod eisiau trefn ragbrofol well i sicrhau mai dim ond y tîmau gorau sy’n cael lle.
- Maen nhw hefyd yn dweud eu bod eisiau rhannu’r arian yn “fwy teg”.
Barn Lloegr
“Ein barn ni yw nad yw’r gystadleuaeth yn un wirioneddol i’r elît os nad yw’r 24 clwb gorau yno,” meddai prif weithredwr Premiership Rugby, y corff sy’n cynrychioli clybiau Lloegr, Mark McCafferty.
“Mae yna gyfres o gwestiynau yr yden ni wedi bod yn eu trafod gyda nhw ers sawl blwyddyn – pethau yr ydyn ni’n teimlo sydd angen eu newid i wneud y gystadleuaeth yn gryfach i bawb.”