Cymru 0–3 Serbia
Llithrodd Cymru i waelod grŵp A gemau rhagbrofol Cwpan y Byd wrth golli o dair gôl yn erbyn Serbia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn y gêm cyn ymestyn eu mantais ddeg munud cyn yr egwyl. Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel gyda’r drydedd gôl wedi deg munud o’r ail hanner ac nid oedd hyd yn oed ymddangosiad Gareth Bale oddi ar y fainc yn ddigon i adfer hunan barch tîm Chris Coleman.
Roedd amddiffyn Cymru ar chwâl trwy gydol y gêm ac roedd y gôl agoriadol yn enghraifft berffaith. Enillodd Filip Djuricic ei beniad ef yn llawer rhy hawdd ac er i Glyn Myhill arbed y cynnig hwnnw roedd Filip Djordievic wrth law i sgorio peniad hawdd.
Doedd dim byd yn hawdd am yr ail gôl – ergyd wych o ddeg llath ar hugain a mwy gan y cefnwr, Aleksandar Kolorov, yn syth i’r gornel uchaf.
Roedd y tri phwynt yn ddiogel i Serbia yn gynnar yn yr ail hanner pan rwydodd Lazar Markovic y drydedd. Er bod llond lle o amddiffynwyr ym mocs Cymru ddaeth yr un ohonynt yn agos at atal Markovic rhag derbyn y bêl ac ergydio’n gywir i’r gornel isaf.
Daeth Bale i’r cae toc cyn yr awr ac er iddo ddod yn agos gyda dau gynnig o bellter, doedd dim gôl gysur i fod wrth i wythnos hynod siomedig ddod i ben.
Mae Cymru bellach ar waelod grŵp A gyda chwe phwynt. Mae ganddynt ddwy gêm ar ôl ym mis Hydref, y gyntaf yn erbyn y tîm a’i trechodd nos Wener, Macedonia, a’r llall yn erbyn un o dimau gorau’r byd, Gwlad Belg.
.
Cymru
Tîm: Myhill, Gunter, Matthews, Gabbidon, Davies, Ledley (Robson-Kanu 75′), King (Bale 58′), Ramsey, Crofts (Vaughan 58′), Bellamy, Vokes
Cerdyn Melyn: Crofts 49’
.
Serbia
Tîm: Stojkovic, Bisevac, Nastasic, Ivanovic, Kolarov, Tadic (Krsticic 88′), Radovanovic (Milivojevic 67′), Fejsa (Petrovic 90′), Djordjevic, Djuricic, Markovic
Goliau: Djordjevic 9’, Kolorov 35’, Markovic 55’
Cerdyn Melyn: Fejsa 88’
.
Torf: 7,500