Mae Betws y Coed wedi’i ddewis fel lleoliad Pencampwriaeth Rhedeg Mynydd y Byd yn 2015 gan Gymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd.

Gwnaed cyhoeddiad gan gorff llywodraethol y gamp yng Ngwlad Pwyl ddydd Sadwrn ac mae disgwyl i’r digwyddiad ddenu rhedwyr o ledled y byd.

Cyflwynwyd cais i gynnal y digwyddiad yng Nghymru gan Athletau Prydain a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac Athletau Cymru.

‘Cyrchfan arbennig’

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wedi croesawu’r digwyddiad.

“Rwyf wrth fy modd bod Gogledd Cymru am gynnal y digwyddiad mawreddog hwn, a bydd yn cryfhau enw da Conwy a Gogledd Cymru fel cyrchfan arbennig ar gyfer rhedeg mynydd a digwyddiadau dygnwch fel hwn,” meddai.

Dywed y Cynghorydd Graham Rees, Aelod Cabinet Cyngor Conwy ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Hamdden:  “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn edrych ymlaen yn arw at groesawu’r bencampwriaeth i’r ardal.  Bydd y digwyddiad yn cael effaith ar yr economi, ein diwylliant chwaraeon ac ieuenctid y Sir – ac mae’r cyfan yn bwysig iawn.

“Yn ogystal â hyn, bydd y cystadleuwyr yn aros yng Ngogledd Cymru am nifer o nosweithiau, gan greu buddiannau economaidd gwych.”

‘Cyfle gwych’

Meddai Cherry Alexander, Cyfarwyddwr Prif Ddigwyddiadau, Athletau Prydain: “Mae’n newyddion gwych y bydd y DU yn gallu cynnal digwyddiad athletau mawr arall.

“Gyda Phencampwriaeth y Byd IAAF a Phencampwriaeth y Byd IPC yn dod i Lundain yn 2017 a Phencampwriaeth Athletau Ewropeaidd IPC yn cael eu cynnal yn Abertawe yn 2014, mae cynnal Pencampwriaeth y Byd Rhedeg Mynydd yng Ngogledd Cymru yn 2015 yn gyfle gwych arall i arddangos athletau ardderchog sydd gennym yn y DU.”