Chris Coleman
Fe fydd Gareth Bale ar y fainc yn ystod gem bêl-droed Cymru yn erbyn Serbia heno.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 7:45.
Mae’r rheolwr Chris Coleman wedi cyhoeddi eisoes na fydd Bale yn rhan o’r tîm heno am ei fod yn dioddef o anaf i gesail y forddwyd.
Fe fydd nifer o chwaraewyr eraill hefyd yn colli’r gem heno gan gynnwys Ashley Williams, sydd wedi cael ei wahardd, ac mae Jonny Williams a Sam Ricketts yn dioddef o anafiadau.
Mae Cymru 11 pwynt y tu ôl i Groatia ar hyn o bryd wedi iddyn nhw golli eu gêm gyntaf nos Wener dwethaf. Mae gobeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2014 bellach ar ben ar ol colli i Macedonia nos Wener.