Glasgow 22–15 Gleision Caerdydd

Colli fu hanes y Gleision nos Wener mewn gêm agos yn erbyn Glasgow ar noson wlyb yn Stadiwm Scotstoun.

Yr Albanwyr oedd un o dimau gorau’r Pro12 y llynedd ac roedd y Gleision o fewn chwarter awr i agor y tymor gyda buddugoliaeth oddi cartref dda iawn yn eu herbyn, ond sgoriodd Tommy Seymor gais hwyr i yrru’r Cymry’n ôl adref gyda dim ond pwynt bonws.

Cyfnewidiodd y ddau dîm ddwy gic gosb yr un wrth iddi barhau’n gyfartal wedi chwarter awr. Trosodd Rhys Patchell ddwywaith i’r Gleision a llwyddodd Scott Wight a Mark Bennett gydag un yr un i’r tîm cartref.

Tawelodd pethau wedi hynny o ran y sgorio gyda Glasgow yn pwyso a’r Gleision yn amddiffyn yn dda. Ond yr Albanwyr oedd ar y blaen ar yr egwyl wedi i Wight drosi cic gosb arall yn dilyn bagliad gan Owen Williams – trosedd a achosodd i’r canolwr dreulio diwedd yr hanner cyntaf a dechrau’r ail yn y gell gallio.

Manteisiodd Glasgow ar yr un dyn o fantais eto yn gynnar yn yr ail hanner gydag ail gic gosb Bennett a phedwerydd ei dîm.

Roedd y Gleision yn gyfartal eto cyn yr awr serch hynny diolch i ddwy gic gosb gan Patchell. Ac roeddynt ar y blaen chwarter awr o’r diwedd yn dilyn gôl adlam gan y maswr.

Ond doedd dim buddugoliaeth i fod i’r Cymry wrth i asgellwr Glasgow, Tommy Seymor, sgorio unig gais y gêm ddeuddeg munud o’r diwedd. Llwyddodd yr eilydd faswr, Ruaridh Jackson, gyda’r trosiad cyn diogelu’r fuddugoliaeth gyda chic gosb.

22-15 y sgôr terfynol felly o blaid y tîm cartref a dim ond pwynt bonws i’r Gleision am eu hymdrechion.

.

Glasgow

Cais: Tommy Seymor 68’

Trosiad: Ruaridh Jackson 69’

Ciciau Cosb: Scott Wight 3’, 34’ Mark Bennett 13’, 41’, Ruaridh Jackson 73’

Cerdyn Melyn: Richie Vernon 76’

.

Gleision

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 6’, 9’, 52′, 56′,

Gôl Adlam: Rhys Patchell 66’

Cardiau Melyn: Owen Williams 34’, Macauley Cook 72’