Dreigiau Casnewydd Gwent 15–8 Ulster
Cafodd y Dreigiau ddechrau da i’r tymor newydd yn y Pro 12 gyda buddugoliaeth dros Ulster ar Rodney Parade nos Wener.
Mae llawer o newid wedi bod yn y rhanbarth dros yr haf gyda Lyn Jones yn cyrraedd fel cyfarwyddwr rygbi a Gareth Davies fel prif weithredwr. Ond chwaraewr newydd a wnaeth yr argraff fwyaf ar y gêm hon wrth i’r maswr, Jason Tovey, sgorio holl bwyntiau’r tîm cartref yn ei gêm gyntaf ers dychwelyd i Rodney Parade.
Agorodd Tovey’r sgorio gyda gôl adlam wedi dim ond saith munud cyn i faswr yr ymwelwyr, Paddy Jackson, unioni pethau gyda chic gosb ychydig funudau’n ddiweddarach.
Adferodd Tovey fantais y Dreigiau wedi hynny gyda chic gosb cyn i Roger Wilson, wythwr Ulster, sgorio unig gais y gêm i roi’r Gwyddelod yn ôl ar y blaen. Methodd Jackson y trosiad cyn methu dwy gic gosb hefyd cyn yr egwyl.
8-6 i’r ymwelwyr oedd hi felly ar yr egwyl ond roedd cicio cywir Tovey yn yr ail hanner yn ddigon i droi’r gêm o blaid y rhanbarth o Gymru.
Trosodd yn gynnar yn yr hanner i roi ei dîm ar y blaen cyn ychwanegu un arall ar yr awr, ac yna un arall ddeg munud o’r diwedd i sicrhau’r fuddugoliaeth.
.
Dreigiau
Ciciau Cosb: Jason Tovey 14’, 48’, 60’, 70’
Gôl Adlam: Jason Tovey 7’
.
Ulster
Cais: Roger Wilson 16’
Cic Gosb: Paddy Jackson 11’