Scarlets 19–42 Leinster
Cafodd y Scarlets gweir gan Leinster yng ngêm gyntaf tymor newydd y Pro 12 nos Wener, a hynny er iddynt fod ar y blaen ar yr egwyl.
Roedd y tîm cartref yn ennill o 16-10 ar hanner amser ond dangosodd y Gwyddelod pam mai nhw yw’r pencampwyr yn yr ail hanner wrth sgorio pedwar cais i ennill y gêm yn gyfforddus.
Hanner Cyntaf
Cafodd Steve Shingler ddechrau da i’w gêm gyntaf yn ôl yn Llanelli gyda dwy gic gosb gynnar i’r tîm cartref. Ac ymestynnodd y capten, Rob McCusker, y fantais gyda chais cyntaf y gêm wedi tri munud ar ddeg, er bod amheuaeth a oedd wedi tirio’r bêl yn iawn.
Tarodd Leinster yn ôl gyda chais i’r prop, Martin Moore, a throsiad a chic gosb gan Jimmy Gopperth. Ond y Scarlets a Shingler a gafodd y gair olaf gyda chic gosb arall i adfer mantais o chwe phwynt ar hanner amser.
Ail Hanner
Roedd hi’n stori wahanol iawn yn yr ail hanner wrth i’r Gwyddelod reoli’n llwyr o’r munud cyntaf pan groesodd yr wythwr, Jordi Murphy.
Derbyniodd yr eilydd asgellwr, Darren Hudson, gerdyn melyn am dacl uchel wael yn fuan wedi hynny cyn dychwelyd i’r cae wedi deg munud i sgorio trydydd cais ei dîm.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel wedi hynny ond sicrhaodd Gopperth y pwynt bonws i’r ymwelwyr gyda’r pedwerydd cais saith munud o’r diwedd. Gorffennodd y maswr y gêm gyda 22 pwynt.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Fois y Sosban yn y munudau olaf wrth i Gareth Owen dderbyn cerdyn melyn cyn i Dave Kearney groesi am bumed cais Leinster i selio buddugoliaeth o 42-19.
.
Scarlets
Cais: Rob McCusker 13’
Trosiad: Steve Shingler 14’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 4’, 7’, 38’, 57’
Cerdyn Melyn: Gareth Owen 78’
.
Leinster
Ceisiau: Martin Moore 17’, Jordi Murphy 41’, Darren Hudson 68’, Jimmy Gopperth 73’, Dave Kearney 79’
Trosiadau: Jimmy Gopperth 18’, 42’, 68’, 80’
Ciciau Cosb: Jimmy Gopperth 32’, 47’, 62’
Cardiau Melyn: Dave Kearney 6’, Darren Hudson 48’, Jack McGrath 78’