Macedonia 2–1 Cymru

Doedd gôl Aaron Ramsey o’r smotyn ddim yn ddigon i Gymru ym Macedonia nos Wener wrth i’r tîm cartref ennill o 2-1 yn y Philip II Arena yng ngrŵp A gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Fe chwaraeodd tîm Chris Coleman yn weddol am awr rhwng dwy gôl Macedonia ond digon siomedig oedd yr ymwelwyr ar y cyfan o flaen gôl. Dechreuodd Gareth Bale y gêm ar y fainc ac yno y gorffennodd hi hefyd wrth i Gymru orffen yn siomedig.

Hanner Cyntaf

Macedonia ddechreuodd y gêm orau heb os ond Cymru a Jonathan Williams a gafodd y cyfle clir cyntaf wedi chwarter awr ond gwnaeth y gôl-geidwad cartref yn dda i’w daclo.

Yna, aeth y tîm cartref ar y blaen yn haeddiannol bum munud yn ddiweddarach wedi i David Vaughan ildio cic gosb mewn man peryglus. Braidd yn ffodus oedd y gôl serch hynny wrth i’r gic rydd wreiddiol wyro’n garedig oddi ar y wal i lwybr y sgoriwr, Ivan Trickovski.

Gwnaeth Glyn Myhill yn dda i gadw Cymru yn y gêm ychydig funudau’n ddiweddarach cyn i Craig Bellamy daro’r postyn yn y pen arall gyda chic rydd gelfydd.

Cymru oedd y tîm gorau erbyn hyn ac roeddynt yn llawn haeddu unioni o’r smotyn wyth munud cyn yr egwyl yn dilyn trosedd Trickovski ar Ramsey yn y cwrt. Cododd Ramsey i guro’r gôl-geidwad o ddeuddeg llath.

Ail Hanner

Cymru ddechreuodd yr ail gyfnod orau hefyd ond hynny heb fygwth llawer o flaen gôl. A bu bron i Facedonia eu cosbi wrth wrthymosod yn chwim hanner ffordd trwy’r ail hanner ond gwnaeth Myhill yn dda i atal Trickovski rhag sgorio’i ail.

Ond roedd y tîm cartref yn ôl ar y blaen ddeg munud o’r diwedd diolch i gôl Aleksandar Trajkovski. Vaughan oedd ar fai unwaith eto wrth i’r chwaraewr canol cae ildio’r meddiant mewn man peryglus ychydig eiliadau cyn i eilydd Macedonia saethu ergyd dda i’r gornel isaf o ugain llath.

Wrth i’r eiliadau ddiflannu doedd dim golwg o Bale yn cynhesu a digon di fflach oedd ymdrechion y Cymry i geisio talu nôl.

Noson siomedig yn Skopje felly ac mae Cymru yn disgyn i’r pumed safle yng ngrŵp A gyda dim ond tair gêm ar ôl.

.

Macedonia

Tîm: Pacovski, Georgievski (Lazevski 77′), Noveski, Sikov, Ristovski, Gligorov, Asevski, Trickovski (Mojsov 85′), Pandev, Kostovski, Ibraimi (Trajkovski 60′)

Goliau: Trickovski 21’, Trajkovski 80’

Cardiau Melyn: Gligorov 40’, Pandev 45’, Kostovski 49’, Ibraimi 58’

.

Cymru

Tîm: Myhill, Gunter, Davies, Ricketts, A. Williams, Ledley, Vaughan (Vokes 85′), Collison (Matthews 78′), Ramsey, J. Williams (Crofts 62′), Bellamy

Gôl: Ramsey [c.o.s.] 39’

Cardiau Melyn: Vaughan 19’, Bellamy 22’, A. Williams 45’, Crofts 77’

.

Torf: 13,000