Chris Coleman
Roedd rhaid i dîm Cymru ymarfer heb eu rheolwr Chris Coleman, neithiwr, cyn eu gem yn erbyn Macedonia heno, wedi problemau gyda’i basbort.
Mae’n ymddangos nad oedd rheolwr Cymru yn gallu dod o hyd i’w basbort ddoe, er mwyn hedfan gyda gweddill y tîm o Gaerdydd i Skopje. Fe fu’n rhaid iddo fynd i Gasnewydd er mwyn adnewyddu ei basbort ac mae o bellach wedi cyrraedd y wlad.
Yn ôl swyddogion o Gymdeithas Bêl-droed Cymru a rheolwr cynorthwyol tîm Cymru Kit Symons – a fu’n arwain yr ymarfer yn absenoldeb Coleman – nid oedd y digwyddiad wedi effeithio ar y paratoadau gan fod y sesiwn ymarfer wedi ei drefnu o flaen llaw.
“Nid yw’r sefyllfa yn un ddelfrydol ond mae o wedi digwydd felly rhaid i ni ddelio ag o,” meddai Kit Symons.
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Macedonia heno am 6yh mewn un o bedair gem i fod yn gymwys i chwarae yng Nghwpan y Byd, Brazil 2014.