Rhys Priestland
Wynebau newydd a hen wynebau’n ôl fydd hi wrth i dri o ranbarthau Cymru gyhoeddi eu timau ar gyfer eu gemau cynta’ yng nghystadleuaeth y Pro 12.
Fe fydd y maswr rhyngwladol Rhys Priestland yn ôl i’r Scarlets ar ôl colli’r rhan fwya’ o’r tymor diwetha’ gydag anaf.
Ac fe fydd chwaraewr newydd, Steve Shingler, gydag ef yn y canol wrth ochr Scott Williams.
Mae’r Scarlets yn wynebu her fawr yn erbyn y pencampwyr, Leinster, er y bydd y rheiny heb chwech o’u chwaraewyr a fu gyda’r Llewod yn Awstralia.
Fe ddywedodd yr hyfforddwr Simon Easterby eu bod yn chwilio am gystal dechrau â’r llynedd.
“Roedd canlyniad a pherformiad da wedi rhoi momentwm i ni’n mynd i mewn i’r gyfres o gêmau ar ôl hynny,” meddai. “Roedd hynny’n bwysig ar y diwedd i’n helpu i’r pedwar ucha’”.
Cyn Scarlet yn arwain y Gleision
Y cyn Scarlet, Matthew Rees, fydd yn arwain Gleision Caerdydd yn erbyn y Warriors yn Glasgow.
Ac fe fydd y pâr rhyngwladol, Lloyd Williams a Rhys Patchell, yn gobeithio cryfhau eu hymgais i gadw’r crysau coch yn yr haneri.
“R’yn ni wedi cael cyfnod dwys cyn dechrau’r tymor,” meddai Res. “Mae’n sialens newydd i fi ac i’r tîm. Fe allwn ni fod yn hyderus ar ôl ein perfformiadau yn ein dwy gêm baratoi.”
Y capten Coombs
Fe fydd gan Ddreigiau Casnewydd Gwent gapten newydd hefyd – ail reng Cymru ac un o sêr annisgwyl y llynedd, Andrew Coombs.
Yr hen wyneb sy’n dod yn ôl yw’r mewnwr Richie Rees ac fe fydd disgwyl i weld sut y bydd y clwb yn gwneud heb chwaraewr fel Dan Lydiate sydd wedi mynd i Ffrainc.
Er eu bod yn croesawu’r tîm a oedd ar frig y tabl y llynedd, Ulster, roedd y Cyfarwyddwr Rygbi, Lyn Jones, yn mynnu bod rhaid iddyn nhw wynebu’r her.
“R’yn ni eisiau cystadlu gyda’r gorau,” meddai. “I wneud hynny rhaid i ni ddysgu trwy chwarae’r gorau.”
Y Timau
Y Scarlets
15 Gareth Owen; 14 Liam Williams; 13 Scott Williams; 12 Steve Shingler; 11 Kristian Phillips; 10 Rhys Priestland; 9 Gareth Davies; 1 Phil John; 2 Ken Owens; 3 Samson Lee; 4 George Earle; 5 Jo Snyman; 6 Aaron Shingler; 7 Josh Turnbull; 8 Rob McCusker (capten).
Eilyddion: 16 Emyr Phillips, 17 Rob Evans, 18 Jacobie Adriaanse, 19 Jake Ball, 20 Craig Price, 21 Rhodri Williams, 22 Adam Warren, 23 Jordan Williams.
Y Gleision
15 Tom Williams; 14 Harry Robinson, 13 Owen Williams, 12 Gavin Evans, 11 Chris Czekaj; 10 Rhys Patchell, 9 Lloyd Williams; 1 Taufa’ao Filise, 2 Matthew Rees (capten), 3 Scott Andrews; 4 Bradley Davies, 5 Filo Paulo; 6 Macauley Cook, 7 Josh Navidi, 8 Robin Copeland.
Eilyddion: 16 Marc Breeze, 17 Sam Hobbs, 18 Benoit Bourrust, 19 Jamie Down, 20 Luke Hamilton, 21 Lewis Jones, 22 Gareth Davies, 23 Dafydd Hewitt.
Dreigiau Casnewydd Gwent
15 Dan Evans; 14 Tom Prydie, 13 Pat Leach, 12 Jack Dixon, 11Hallam Amos; 10 Jason Tovey, 9 Richie Rees; 1, Aaron Coundley, 2 T.Rhys Thomas, 3 Dan Way; 4 Matthew Screech, 5 Andrew Coombs (capten); 6 Jevon Groves, 7 Nic Cudd, 8 Lewis Evans.
Eilyddion: 16 Hugh Gustafson, 17 Phil Price, 18 Francisco Chaparro, 19 Adam Jones, 20 Netani Talei, 21 Jonathan Evans, 22 Kris Burton, 23 Ross Wardle.