Mae Sais sy’ wedi ennill Cwpan y Byd a Chwpan Heineken wedi ei benodi yn Bennaeth Rygbi Cymru.  Chwaraeodd Josh Lewsey 55 o weithiau dros Loegr.

Ers ymddeol yn 2009 bu’n Brif Weithredwr y Cornish Pirates.

Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa yn chwarae i’r London Wasps, a gallai wedi bod yn gymwys i chwarae dros Gymru gan fod ei fam yn wreiddiol o Gwmllynfell.

Yn ei swydd newydd bydd yn gyfrifol am bob haen o rygbi yng Nghymru ac eithrio sgwad Warren Gatland.

Bachan profiadol

‘‘Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu apwyntio Josh fel ein Pennaeth Rygbi newydd,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.

“Mae’n frwdfrydig ac yn sicr mae ganddo’r profiad ac yn benderfynol i wneud gwahaniaeth enfawr a chadarnhaol i rygbi Cymru.”