Ddydd Sul fe fydd yr Elyrch yn herio West Brom oddi cartref yn yr Hawthorns.

Hyd yma mae’r ddau dîm yn siomedig gyda’r ffordd y maen nhw wedi dechrau’r tymor yn yr Uwch Gynghrair.

Bydd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, yn disgwyl perfformiad gwell gan ei dîm er mwyn cipio’r pwyntiau cyntaf hollbwysig.

‘‘Dim ond Abertawe a Crystal Palace sydd heb bwyntiau eto, gallwn ddweud mae’r gêm yma yw’r un bwysicaf hyd yn hyn,” meddai Guto Llewelyn, un o gefnogwyr Abertawe.

“Byddai pwyntiau yn erbyn Manchester City a Tottenham Hotspur wedi bod yn bonws i ni, ond mae’n rhaid gwneud ein gorau i sicrhau’r fuddugoliaeth brynhawn dydd Sul.’’

Fe fydd Laudrup yn gobeithio chwarae Ashley Williams, Wilfried Bony a Jonjo Shelvey wedi i’r tri golli’r gêm yn erbyn Petrolul Ploiesti neithiwr oherwydd anafiadau.

Bydd Nathan Dyer a Neil Taylor yn absennol oherwydd anafiadau, ond gallai Dwight Tiendalli fod yn rhan o gynlluniau Laudrup i rwystro West Brom.