Wedi curo Manchester City yn eu gêm gartref gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr, ac yna Accrington Stanley nos Fercher yng Nghwpan y Gynghrair, bydd yr Adar Gleision yn llawn hyder wrth iddyn nhw groesawu Everton i Stadiwm y Ddinas yfory.
Bydd rheolwr Caerdydd Malky Mackay yn gobeithio am berfformiad tebyg i’r un gan ei dîm y penwythnos diwetha’ yn erbyn Man City.
Ni fydd yr ymosodwr newydd Andreas Cornelius yn chwarae oherwydd iddo anafu ei bigwrn yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Accrington Stanley nos Fercher. Mae’n debyg y bydd Cornelius ar y cyrion am ychydig o wythnosau.
‘‘Rydym ni’n ymwybodol o’r her sydd o’n blaenau wrth chwarae Everton. Roedd y ffydd yn gryf y penwythnos diwethaf, gobeithio y gallwn barhau â hynny,’’ meddai rheolwr Caerdydd, Malky Mackay.
‘‘Rwyf am i’r cefnogwyr ddangos yr un brwdfrydedd a’r un gefnogaeth a ddangoswyd yn erbyn Manchester City,’’ ychwanegodd.