Mae Byron Hayward yn hapus i barhau gyda’r system lwyddiannus oedd gyda thîm dan ugain oed Cymru wrth iddo gael ei benodi yn brif hyfforddwr.

Treuliodd Hayward y ddwy flynedd ddiwethaf fel cynorthwyydd i Danny Wilson sy’n rhoi’r gorau i’r swydd er mwyn canolbwyntio ar ei waith fel hyfforddwr blaenwyr y Scarlets.

Mae Hayward, sy’n 44 oed, wedi bod yn ddylanwadol iawn ar y tîm ieuenctid wrth iddynt orffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn 2012 a churo Seland Newydd wrth wneud hynny, a chyrraedd y rownd derfynol yn erbyn Lloegr y mis diwethaf.

Bu Hayward yn gefnwr gyda Threcelyn, Glyn Ebwy, Pontypwl, Caerloyw a Sale.

‘‘Mi fydd yna ychydig o newid yn y ffordd y byddwn yn chwarae ac yn edrych ar bethau.  Yr wyf wedi dysgu cymaint wrth weithio gyda Danny.  Byddai bob amser yn gefnogol ac yn rhoi cyfle i’r chwaraewyr ifanc ddatblygu.  Yr oedd Danny a fi o’r un farn cyn belled a bod disgyblaeth a safonau yn y cwestiwn,’’ meddai Hayward.

Cafodd Cymru eu trechu ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac yng nghystadleuaeth Cwpan Iau y Byd gan Loegr ond maent wedi dangos bod ganddynt y gallu i chwarae ar y lefel uchaf.

‘‘Mi fydd yna bwysau a disgwyliadau arnom ac ar ôl gwneud cystal yn ddiweddar, ond dyna’r rheswm yr ydym yn cymryd rhan a chystadlu.  Nid wyf yn gweld unrhyw reswm na allwn brofi mwy o lwyddiant os bydd y chwaraewyr yn dal i weithio’n galed,’’ ychwanegodd Hayward.

Richard Hodges fydd hyfforddwr yr amddiffynwyr a Ioan Cunningham fydd yng ngofal y blaenwyr.  Mae Mark Taylor yn parhau fel rheolwr y tîm.