Mae canolwr Cymru a’r Llewod, Jamie Roberts wedi dweud ei fod yn gobeithio y gall llwyddiant y Llewod sbarduno Cymru i lwyddo yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2015.
Roedd Roberts a’i gydwladwyr yn allweddol i fuddugoliaeth y Llewod dros Awstralia, a chafodd y cefnwr Leigh Halfpenny ei enwi’n seren y gyfres.
Hon oedd buddugoliaeth gyntaf y Llewod ers 16 o flynyddoedd – eu pumed ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Wrth ddychwelyd i Brydain, dywedodd Jamie Roberts: “Mae gweld faint o bobol sydd wedi dod i’n cefnogi ni yn eithaf arbennig.
“Fe fydd yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yn Awstralia, fwy na thebyg, yn cymryd ychydig wythnosau i suddo i mewn.
“I’r 80 o bobol ar y daith honno, mae’n rhywbeth i’w drysori am weddill ein hoes.
“Fe wnaethon ni greu hanes.
“Yn y pen draw, nid llawer o Llewod sy’n fuddugol, yn enwedig yn ystod y 50 neu 60 o flynyddoedd diwethaf.
“Rydyn ni’n arbennig o falch o hynny a gobeithio y gall y bois fwynhau toriad da dros yr haf a hel atgofion am yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni.”
Roedd Jamie Roberts yn allweddol yn y trydydd prawf tyngedfennol, ar ôl dychwelyd yn dilyn anaf i linyn y gâr.
“Fe wnes i fwy neu lai dderbyn fy mod i fwy na thebyg yn mynd adre.
“Roedd y rhwyg i linyn y gâr yn eithaf cas felly mae arna i ddyled am fy ymddangosiad yn y trydydd prawf i’r tîm meddygol ar y daith.”
Bydd Roberts a’i gydwladwr, Dan Lydiate yn symud i Racing Metro yn Ffrainc y tymor nesaf.
Roedden nhw ymhlith 11 o Gymry yn y tîm ar gyfer y trydydd prawf.
Wrth edrych ymlaen at Gwpan Rygbi’r Byd yn 2015, dywedodd Roberts: “Rydyn ni’n symud ymlaen nawr yn ystod y blynyddoedd nesaf tuag at Gwpan y Byd.
“Wedi gweld sut mae’r bois Cymreig wedi perfformio ar y daith hon, mae’n addawol iawn wrth edrych tua 2015.
“Rydyn ni am ennill Cwpan y Byd.”
Yn y maes awyr, dywedodd capten Cymru a’r Llewod, Sam Warburton: “Mae’n deimlad gwych.
“Bu’n rhaid aros amser hir ar gyfer y daith hon felly mae’n braf dod nôl gyda thlws.
“Dim ond naw gwaith mae hyn wedi cael ei wneud yn ystod cyfnod o 125 o flynyddoedd felly mae’r chwaraewyr i gyd yn gwybod eu bod nhw’n rhan o grŵp anrhydeddus iawn ac maen nhw’n falch iawn o hynny.”