Mae Morgannwg yn gobeithio ennill eu pedwaredd gêm o’r bron yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 yn erbyn Gwlad yr Haf yn Stadiwm Swalec nos Wener.
Mae’r ymwelwyr yn ddi-guro yn y gystadleuaeth hefyd a gyda rhagolygon y tywydd yn addawol iawn, mae disgwyl tyrfa dda yn y Swalec.
Mae Morgannwg wedi enwi’r un garfan unwaith eto yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Swydd Warwick yn Ysgol Rugby ddydd Sadwrn.
Ni fu’n bosibl i’r ddau dîm chwarae yn y gystadleuaeth hon ar y Swalec y llynedd oherwydd y glaw, ac fe wnaeth Gwlad yr Haf ennill yn Taunton wrth i James Hildreth daro cant oddi ar 53 pelen a sicrhau buddugoliaeth i’r tîm cartref o bedair wiced.
Y tymor blaenorol, cipiodd y troellwr Arul Suppiah ei ffigurau gorau erioed – 6/5.
Dydy Morgannwg ddim wedi curo Gwlad yr Haf yn y gystadleuaeth hon ers 2008.
Ond hyd yn hyn yn y gystadleuaeth eleni, mae Morgannwg wedi curo Swydd Warwick ddwywaith a chael buddugoliaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon.
Byddan nhw’n herio’u cyn-gapten, Alviro Petersen, sydd wedi ymuno â Gwlad yr Haf ar gyfer y gystadleuaeth hon.
Bydd y gêm yn cychwyn am 6:30 nos Wener.
Carfan Morgannwg: Jim Allenby, Mark Wallace, Chris Cooke, Marcus North (capten), Murray Goodwin, Ben Wright, Stewart Walters, Nathan McCullum, Nick James, Dean Cosker, Michael Hogan, Will Owen, Graham Wagg, Alex Jones.