Michael Laudrup
Mae Michael Laudrup, rheolwr Abertawe wedi datgan bod y garfan y byddai’n dymuno ei chael ar gyfer y tymor newydd bron a bod yn gyflawn.

Bu’r ymosodwr Wilfried Bony yn cael prawf meddygol yn yr Iseldiroedd ddoe a disgwylir y bydd yn ymuno â’r Elyrch heddiw am ychydig dros £13 miliwn.  Mae’n debyg bod Laudrup yn awyddus i arwyddo un blaenwr arall cyn dechrau’r tymor.

‘‘Roedd pawb yn gwybod bod angen chwaraewyr oedd yn medru sgorio yn gyson, ond mae’r chwaraewyr hynny yn brin gan fod clybiau eraill yn chwilio amdanyn nhw hefyd.  Ry’n ni wedi arwyddo chwaraewyr da yn ystod yr haf, ac rwy’n credu bod gen i garfan ddiddorol iawn,’’ meddai Laudrup.

Mae Laudrup wedi bod yn chwilio am flaenwyr sy’n medru sgorio ers iddo fod yn rheolwr yn Abertawe ac mae’n credu os gall arwyddo un ymosodwr arall y bydd y tîm yn medru adeiladu ar gampau’r tymor diwethaf.

‘‘Roedd gennym garfan dda’r tymor diwethaf ond roedd llawer o’r pwysau ar ysgwyddau Michu i sgorio’r goliau, a dwi wedi dadlau na ellir rhoi’r pwysau ar ysgwyddau un chwaraewr,’’ ychwanegodd Laudrup.